''Mae Rhiannon yn mynd i Ynys y Barri''
Mae’n hyfryd y bore ‘ma, ac mae rhagolwg y tywydd yn dweud y bydd y diwrnod yn boeth ac yn heulog. Mae Rhiannon yn penderfynu ei fod yn gyfle da i ymweld â’i modryb Fflur yn Y Barri. Byddan nhw’n cael hufen iâ ar y traeth a dal i fyny â chlecs y teulu.
Mae Rhiannon yn yfed ei choffi a gorffen bwyta ei chrempog olaf, y mae hi’n ei gorchuddio â mêl ac aeron.
Mae hi’n cydio yn ei bag llaw ac yn mynd tuag at y drws ffrynt.
Ddylai hi fynd i’r Barri ar y trên neu yn y car?
* [[Dylai hi fynd ar y trên|Ar y trên]]
* [[Dylai hi fynd mewn car|Mewn car]]
Mae Rhiannon yn datgloi’r car, yn mynd i mewn, yn taflu ei bag llaw ar y sedd gefn, yn sythu’r drych ac yn tynnu allan o’i dreif.
Dylai gymryd tua thri chwarter awr i yrru i Ynys y Barri o’i thŷ yn nwyrain Caerdydd, felly bydd hi’n cyrraedd yno erbyn canol y bore.
Oes ‘na draffig neu ydy’r ffordd yn glir?
* [[Mae ‘na lawer o draffig|Mae ‘na draffig]]
* [[Mae’r ffordd yn glir|Ffordd yn glir]]
Bron cyn gynted ag y mae Rhiannon yn cyrraedd y ffordd, mae’r traffig yn arafu. Mae ‘na dagfa draffig. Mae hi’n eistedd yn amyneddgar, yn symud ymlaen o bryd i’w gilydd pan mae’r car o’i blaen wedi symud. Ar y cyflymder hwn, fydd hi ddim yn cyrraedd Y Barri tan hanner dydd.
Sut bynnag… mae 'na lwybr byr.
Ddylai Rhiannon gymryd y llwybr byr? Neu ddylai hi fod yn amyneddgar?
* [[Dylai, dylai Rhiannon gymryd y llwybr byr|Llwybr byr]]
* [[Na ddylai, dylai fod yn amyneddgar|Mae Rhiannon yn aros]]
Mae’r ffordd o’n blaenau yn glir. Mae Rhiannon yn chwarae cerddoriaeth ac yn mwynhau’r dro.
Yn sydyn, mae hi’n meddwl rhywbeth ofnadwy.
Naeth hi adael yr hob nwy ymlaen?
* [[Mae hi’n meddwl iddi hi wneud|Mynd adref]]
* [[Mae hi’n siŵr na naeth hi|Cario ymlaen]] Mae Rhiannon yn chwarae cerddoriaeth a thrio mwynau’r heulwen tra mae’r traffig yn symud ymlaen yn araf, araf.
Mae hi’n gallu gweld goleuadau fflachiol o’i blaen ac yn fuan mae’n glir bod ‘na ddamwain fechan. Mae lori wedi colli llwyth.
Mae hi’n mynd i flaen y ciw ac mae’r swyddog heddlu yn chwifio arni i fynd heibio. Wrth iddo wneud hynny, mae hi’n meddwl rhywbeth ofnadwy.
Naeth hi adael yr hob nwy ymlaen?
* [[Mae hi’n meddwl iddi hi wneud|Mynd adref]]
* [[Mae hi’n siŵr na naeth hi|Cario ymlaen]]
Mae Rhiannon yn troi i lawr stryd ochr. Mae hi’n siŵr bod ‘na ffordd trwy’r lonydd cefn fydd yn dod â hi i’r ffordd gywir. Mae hi’n meddwl ei bod hi’n gwybod ble mae hi’n mynd, ond mae wedi bod yn amser hir ers iddi yrru’r ffordd hon. Ond yn fuan, mae’r ffordd yn dechrau edrych yn fwy cyfarwydd ac mae Rhiannon yn dechrau teimlo’n fwy hyderus.
Mae hi’n siomedig i sylweddoli mai’r rheswm bod y ffordd yn edrych yn gyfarwydd yw mai ei ffordd hi ei hun yw hi. A dyma ei thŷ.
Mae hynny’n rhyfedd.
Ydy Rhiannon yn rhoi’r ffidil yn y to a mynd adre? Neu ydy hi trio’r trên?
* [[Mae Rhiannon yn rhoi’r ffidil yn y to|Dim hufen iâ i Rhiannon heddiw!]]
* [[Mae hi’n trio’r trên|Ar y trên]]
Mae’r ofn y gallai hi fod wedi gadael y nwy ymlaen yn peri trwbl i Rhiannon ac mae hi’n troi’n ôl tuag adref. Ni all gofio ei ddiffodd. Ond ni all gofio ei adael ymlaen chwaith.
Mae hi’n cyrraedd adref, yn rhuthro i mewn i’r tŷ ac yn agor drws y gegin. Mae ‘na arogl cryf o nwy. Mae hi’n estyn i ddiffodd y nwy pan mae’r anweddau’n ffrwydro.
Ni fydd hufen iâ i Rhiannon heddiw.
* [[Ceisiwch eto, o ddewis heb ladd Rhiannon|Mae Rhiannon yn mynd i Ynys y Barri]]O feddwl amdano, mae Rhiannon yn hollol siŵr ei bod hi wedi diffodd y nwy. Mae hi’n cofio gweini ei chrempog olaf, rhoi’r badell haearn bwrw ar ei stand, diffodd y nwy ac wedyn mynd i orffen ei brecwast.
Mae hi’n gyrru ymlaen.
Mae golau’r batri ar ddangosfwrdd ei char yn goleuo. Dydy hi ddim allan o drydan yn barod, nac ydi?
“Hei, ffôn!” meddai hi. “Ble mae’r orsaf wefru agosaf?”
Mae hi’n cael cip ar y map. Ni all hynny fod yn gywir. Mae’r map yn ei chyfarwyddo i adael y brif ffordd ac i fynd i mewn i gefn gwlad.
Ddylai hi aros ar y brif ffordd a gobeithio y gall hi gyrraedd y Barri? Neu ddylai hi fynd tuag at yr orsaf wefru?
* [[Cario ymlaen|Aros ar y ffyrdd hyn]]
* [[Troi oddi ar y ffordd|Mae hi’n cael ei throi i mewn i dylluan]]Ni fydd hufen iâ i Rhiannon heddiw. Ba.
* [[Trïwch eto|Mae Rhiannon yn mynd i Ynys y Barri]]Mae Rhiannon yn cerdded i orsaf drenau Caerdydd Canolog ac yn prynu tocyn i Ynys y Barri. Bydd yn daith hyfryd, ymlaciol, yn cymryd ychydig dros hanner awr iddi.
Mae hi’n mynd i’r platfform ac yn edrych ar yr arwydd.
Oes trên yn dod?
* [[Oes, mae’r trên i fod i gyrraedd mewn ychydig eiliadau|Trên]]
* [[Nac oes, mae ‘na ryw fath o oediad|Sdim trên]]
Mae Rhiannon yn mynd ar y trên ac yn gwneud ei hun yn gyfforddus wrth fwrdd. Yn araf, mae hi’n dechrau ymlacio. Mae hi’n edrych drwy’r ffenestr wrth i’r trên dynnu allan o’r orsaf.
Mae hwn yn mynd i fod yn ddiwrnod hyfryd,
Ond, wedyn… Yr arswyd! Naeth hi adael y nwy ymlaen?
* [[O, na, mae hi’n meddwl y gallai hi fod wedi gwneud|Mynd adre ar y trên]]
* [[Naddo, mae hi’n siŵr bod y nwy wedi’i ddiffodd|Mynd ymlaen ar y trên]]Does ‘na ddim trenau ar y bwrdd ymadawiadau. A does ‘na ddim gwybodaeth ynghylch pryd y gallai’r trenau ddod.
Mae Rhiannon yn ochneidio. Am annifyr.
Mae hi’n aros.
Yn y diwedd mae ‘na gyhoeddiad. Mae ‘na fuwch ar y lein.
Ddylai Rhiannon ddal y bws yn lle, neu ddylai hi gerdded adref a mynd â’r car?
* [[Dylai Rhiannon ddal y bws|Dal y bws]]
* [[Dylai Rhiannon gerdded adref a mynd â’r car|Mewn car]]Na, bydd yn iawn, mae hi’n meddwl. Dydy’r Barri ddim yn bell i ffwrdd.
Mae hi’n gyrru ymlaen, yn anwybyddu gorchymyn parhaus ei ffôn iddi hi droi’n ôl.
Ar ôl sbel, mae’r car yn dechrau bipio. Mae hi bron allan o bŵer. Pe byddai’n parhau dim ond ychydig yn hirach…
Dydy’r trydan ddim yn parhau.
Mae hi’n gweld porth cae ble y gall hi dynnu oddi ar y ffordd yn ddiogel ac mae hi’n parcio ei char.
Ydy hi’n cerdded, neu ydy hi’n trio bodio lifft weddill y ffordd i’r Barri?
* [[Mae hi’n cerdded|Mae’n ffordd hir i’r Barri pan ddach chi’n cerdded]]
* [[Mae hi’n bodio am lifft|Nid yw bodio byth yn syniad da]]
Mae Rhiannon yn penderfynu bod gwell iddi hi drydanu’r batri, fel arall, yn gwybod ei lwc hi, bydd hi’n rhedeg allan o bŵer yn gyfan gwbl ac yn mynd yn sownd. Basai fo’n difetha’r dydd, felly mae hi’n gwneud y peth synhwyrol.
Mae hi’n ffeindio’r orsaf wefru, ond does dim ond gwefrydd araf, nid y gwefrydd cyflym mae hi ei angen. Bydd yn cymryd awr i lenwi ei batri.
Mae hi’n prynu ychydig o fyrbrydau o’r siop ac yn eu bwyta nhw yn ei char. Dydy’r batri ddim hyd yn oed yn hanner llawn.
Mae hi’n mynd allan o’r car, ei gloi, ac yn mynd am dro.
“Am eich trosedd o gynllwynio i ladd eich gŵr,” meddai dyn y tu ôl iddi hi.
Mae hi’n troi i weld dyn mewn gwisg laes, efo barf hir.
“Beth?” meddai hi.
“Am eich trosedd o gynllwynio i ladd eich gŵr,” meddai, “mae rhaid i chi fyw am byth fel tylluan, yn cael eich casáu gan yr holl adar eraill, byth i weld yr haul eto.”
Mae o’n mwmian geiriau annealladwy ac mae Rhiannon yn teimlo ei hun yn trawsnewid.
“Ond, does gen i ddim gŵr hyd yn oed!” meddai hi, ei geiriau olaf cyn iddi hedfan i ffwrdd i’r goedwig.
Ni fydd hufen iâ i Rhiannon heddiw. Ba.
* [[Trïwch eto|Mae Rhiannon yn mynd i Ynys y Barri]]"Mae’n beth da fy mod i wedi trydanu fy ffôn!” meddai Rhiannon wrthi hi ei hun. Mae hi’n codi ei bag llaw o’r sedd cefn, yn cloi’r car ac yn cychwyn tuag at y Barri.
Mae’n debyg ei fod tua awr o gerdded, meddai’r map wrthi. Mae hi’n mynd i fod yn hwyr. Mae hi’n cymryd cip agosach ar y map.
Beth tasai hi’n torri dros y caeau? Wedyn, gallai hi gyrraedd yr arhosfa fysiau honno, a dal bws i’r dref. Basai hi’n cyrraedd mewn pryd!
Mae hi’n dringo dros y giât ac yn cerdded yn syth ar draws y cae. Bydd y daith gerdded yn dda i mi, mae hi’n meddwl.
Pan mae hi’n cyrraedd ochr arall y cae, mae hi’n gweld llwybr yn mynd trwy goedwig fach. Mae’n mynd yn y cyfeiriad cywir, felly i mewn i’r goedwig mae hi’n mynd.
Mae’r awyr yn edrych yn rhyfedd yn y goedwig. Cliriach. Oerach. Mwy ffres. Ac mae’r daith gerdded yn teimlo fel ei bod yn cymryd amser hir, ond dim ond munudau allai fod wedi pasio.
Mae hi’n cyrraedd ymyl y goedwig ac yn edrych allan at yr olygfa o’i blaen.
Mae rhywbeth yn anghywir iawn. Mae hi’n ei deimlo.
Mae hi’n cael cip ar ei ffôn, at y dyddiad ar y sgrîn clo. “2126” meddai. Mae can mlynedd wedi mynd heibio. Dydy hi ddim yn siŵr os yw’r Barri yn dal yn bodoli. Yn sicr, dydy Fflur ddim. Mae hi’n troi’n ôl i’r goedwig.
Ni fydd hufen iâ i Rhiannon heddiw. Ba.
* [[Trïwch eto|Mae Rhiannon yn mynd i Ynys y Barri]]Mae Rhiannon yn penderfynu gamblo ac yn bodio wrth gerdded. O leiaf mae pob cam mae hi’n ei symud yn mynd â hi yn agosach i’r Barri, hyd yn oed os nad oes neb yn ei chodi hi.
Does ‘na ddim llawer o draffig, ond ar ôl ychydig mae hi’n clywed car yn arafu y tu ôl iddi.
Mae ei chalon yn curo’n uchel yn ei brest. Efallai bod bodio’n syniad gwael.
Mae drws y car yn agor ac mae ci yn neidio allan. Ci mawr llwyd. Ac un arall. Ac un arall. Ac un arall. Maen nhw’n cyfarth arni, cegau ar agor, llygaid yn llygadu’n wyllt, mae mwy o gŵn yn llifo o’r car, mwy o gŵn na all un car eu dal.
Y Cŵn Annwn ydyn nhw.
Mae hi’n gweld Arawn, yn eistedd tu ôl i’r olwyn, yn annog y cŵn ymlaen.
Mae hi’n rhedeg.
Ni fydd hufen iâ i Rhiannon heddiw. Ba.
* [[Trïwch eto|Mae Rhiannon yn mynd i Ynys y Barri]]Mae’r ofn y medrai hi fod wedi gadael y nwy ymlaen yn peri trwbl i Rhiannon yr holl ffordd i Grangetown. Ni all gofio ei ddiffodd. Ond dydy hi ddim yn cofio ei adael ymlaen chwaith.
Mae hi’n dod oddi ar y trên ac yn rhedeg trwy’r orsaf i’r safle tacsi. Diolch byth mae ‘na dacsi yna! Mae hi’n rhoi ei chyfeiriad i’r gyrrwr ac yn mynd adref.
Mae hi’n cyrraedd adref, yn rhuthro i mewn i’r tŷ ac yn agor drws y gegin. Mae ‘na arogl cryf o nwy. Mae hi’n estyn i ddiffodd y nwy pan mae’r anwedd yn ffrwydro.
Ni fydd hufen iâ i Rhiannon heddiw.
* [[Ceisiwch eto, o ddewis heb ladd Rhiannon|Mae Rhiannon yn mynd i Ynys y Barri]]O feddwl amdano, mae Rhiannon yn hollol siŵr ei bod hi wedi diffodd y nwy. Mae hi’n cofio gweini ei chrempog olaf, rhoi’r badell haearn bwrw ar ei stand, diffodd y nwy ac wedyn mynd i orffen ei brecwast.
Mae hi’n ymlacio eto.
Mae’r haul yn sgleinio, mae’r awyr yn las ac mae popeth yn iawn efo’r byd.
Ond… Mae dyn rhyfedd yn cerdded ar hyd y cerbyd trên tuag ati. Mae o’n eistedd gyferbyn â hi wrth y bwrdd, yn pwyso ymlaen ac yn syllu arni hi.
Yn ei thro, mae hi’n syllu trwy’r ffenestr, yn ceisio osgoi’i edrychiad.
Y mwyaf mae o’n syllu, y mwyaf mae hi’n gwrthod edrych arno.
Efallai, tasai hi’n siarad â fo, y byddai’n stopio syllu? Ddylai hi siarad â fo?
* [[O na, dylai hi ei heglu fynd yr uffern allan o Dodge.|Rhedeg i ffwrdd]]
* [[Pam lai? Pa mor beryglus allai y medr bod un dyn rhyfedd, brawychus fod?|Siarad efo’r dyn]]Bydd yn cymryd dwywaith mor hir ar y bws, ond o leiaf byddai’n gallu mwynhau’r reid.
Mae hi’n eistedd i lawr, tynnu ei ffôn o’i bag llaw, ac yn edrych ar ei chyfryngau cymdeithasol. Ar ôl ychydig funudau, yn sydyn, mae hi’n meddwl tybed yw hi ar y bws cywir. Roedd hi’n siŵr mai hon oedd y 95, ond mae’n teimlo fel ei bod yn mynd yn y ffordd anghywir.
Ydy Rhiannon ar y bws cywir?
* [[Ydy, mae hi. Mae popeth yn iawn|Aros ar y bws hwn]]
* [[O, nac ydy. O diar.|Bws anghywir]]Mae hi ar y bws iawn. Ffew! Gall hi eistedd yn ôl a mwynhau'r daith.
Fel maen nhw'n dod i ddarn o gefn gwlad, mae peiriant y bws yn dechrau gwneud sŵn rhygnu poenus. Mae'r bws yn arafu. Mae'r peiriant yn pesychu a marw.
Mae'r gyrrwr yn gwneud cyhoeddiad.
"Mae'n ddrwg gen i am yr oediad i'ch taith . Dw i ddim yn gwybod beth sy'n digwydd, ond dw i wedi cysylltu â Rheolaeth, ac maen nhw'n anfon rhywun i helpu."
Mae Rhiannon yn ochneidio.
Ddylai Rhiannon aros ar y bws, neu geisio cael lifft gan rhywun?
* [[Dylai Rhiannon aros ar y bws|Mae hi’n aros]]
* [[Dylai Rhiannon geisio cael llift|Nid yw bodio byth yn syniad da]]Mae’n cymryd ychydig o amser i Rhiannon sylweddoli, ond mae hi wedi mynd ar y bws i Gaerffili. O diar. Mae hynny’n drueni.
Ond dydy hi ddim wedi mynd rhy bell allan o’i ffordd.
Ddylai hi ddod i ffwrdd a dod o hyd i fws i’r Barri? Neu ddylai hi aros ar y bws a chael diwrnod allan gwahanol?
* [[Dylai hi ddod i ffwrdd y bws|Oddi ar y bws]]
* [[Dylai hi aros ar y bws|Ar y bws]]Mae Rhiannon yn aros ar y bws.
Mae hi’n aros.
Ac yn aros.
Ac yn aros.
Pwy â wyr pa mor hir bydd hi’n gymryd i rhywun i ddod a thrwsio’r bws.
Dylai gerdded beth bynnag, efallai.
* [[Mae Rhiannon yn dod oddi ar y bws|Mae’n ffordd hir i’r Barri pan ddach chi’n cerdded]]Mae Rhiannon yn dod oddi ar y bws, edrych ar ei ffôn a gweithio allan ble mae’r arhosfa fysiau agosaf.
Tra mae hi’n cerdded, mae niwl trwchus yn dod i lawr. Cyn bo hir, ni all weld llawer mwy na metr neu ddwy o’i blaen. O dan ei thraed, mae’r palmant yn newid i ro ac wedyn i lwybr mwd caled.
Mae llais yn dod o’r niwl.
“Pwy sy’n dod?” meddai dyn.
“Beth?”
Yn sydyn, mae’r niwl yn clirio ac mae Rhiannon yn gweld dyn ifanc a golygus iawn yn sefyll o’i blaen hi.
“O, helo,” meddai. “Hoffech chi ddiod?”
Mae hi’n gweld gobled o win yn ei law.
“Yym, efallai?” meddai Rhiannon, yn edrych o gwmpas. Mae hi’n sefyll wrth giât mewn wal dref dal, un sydd ddim yn bodoli yng Nghaerdydd yn sicr.
“Seithennyn ydy fy enw i,” meddai. “Os dach chi eisiau dod i’r wledd, well i chi wneud penderfyniad. Mae popeth yn dechrau cychwyn yno.”
“Beth?”
Mae o’n bowio’n grand.
“Croeso i Gantre’r Gwaelod.”
Ni fydd hufen iâ i Rhiannon heddiw. Ba.
* [[Trïwch eto|Mae Rhiannon yn mynd i Ynys y Barri]]Bydd modryb Fflur ac Ynys y Barri yn dal yno yfory, mae Rhiannon yn meddwl. Dylwn i fynd efo’r llif. Efallai bod ‘na reswm fy mod i ar fy ffordd i Gaerffili.
Ni fydd hufen iâ i Rhiannon heddiw. Neu, effallai y bydd. Siawns bod hufen iâ yng Nghaerffili.
* [[Trïwch eto|Mae Rhiannon yn mynd i Ynys y Barri]]Dydy Rhiannon yn dweud dim byd wrth y dyn rhyfedd. Mae o’n tynnu anadl fel tasai o’n mynd i ddechrau darlithio iddi.
Mae hi’n ystyried ei hopsiynau dianc. Mae hi’n cofio bod ‘na sedd wag ymhellach i fyny’r cerbyd trên.
Mae hi’n cydio yn ei bag ac yn cerdded yn gyflym i’r sedd wag. Mae hi’n gallu clywed bod y dyn wedi codi ac yn ei dilyn. Mae hi’n paratoi ei hun, yn barod i wneud ffwdan tasai o’n trio unrhyw beth.
Mae hi’n eistedd i lawr ac yn sydyn mae’r ail sedd yn cael ei llenwi gan ddynes. Mae hi’n pwyso drosodd at Rhiannon.
“Nes i weld y dyn yna’n eich trafferthu chi,” mae hi’n sibrwd, “a nes i feddwl efallai eich bod chi angen rhywun i’ch cefnogi.”
Mae Rhiannon yn troi i’w hwynebu hi. Mae hi’n ganol oed, anhynod, ond mae ‘na dân yn ei llygaid sy’n gwneud i Rhiannon deimlo’n fwy hyderus.
“Os ydy o’n trio eto, bydd rhaid iddo fo ddelio efo fi,” meddai.
Mae Rhiannon yn edrych i fyny i weld y dyn rhyfedd yn syllu ati hi. Mae o’n troi a cherdded i ffwrdd.
“Diolch yn fawr,” meddai Rhiannon.
Mae’r trên yn tynnu i mewn i’r orsaf, mae’r drysau’n agor ac mae Rhiannon yn gweld y dyn yn mynd oddi ar y trên a gadael y platfform. Mae hi’n ymlacio.
Ond dydy drysau’r trên ddim yn cau. Dydy’r trên ddim yn gadael y platfform. Yn lle hynny, mae ‘na gyhoeddiad. Mae’r trên wedi torri i lawr ac mae’n rhaid i bawb ddod i ffwrdd.
“Dydy hyn ddim yn helpu,” meddai Rhiannon.
“Paid â phoeni,” mae’r ddynes yn ateb. “Dw i’n addo i chi y bydd o’n iawn.”
Ydy Rhiannon yn aros am drên arall?
* [[Ydy, mae Rhiannon yn aros am drên arall|Aros am drên arall]]
* [[Nac ydy, mae Rhiannon yn edrych am ffordd arall i fynd i’r Barry|Ffordd arall i Friars Road]]“Yyr, helo,” meddai Rhiannon, yn nerfus.
“Dw i’n eich adnabod chi,” meddai’r dyn rhyfedd.
“Dw i’n siŵr bod chi ddim.”
“Chi, naethoch chi gynllwynio i ladd Lleu Llaw Gyffes.”
“Beth? Naddo! Dw i ddim wedi cynllwynio unrhyw beth erioed yn fy mywyd!”
Mae’r trên yn tynnu i mewn i Ddinas Powys ac mae Rhiannon yn gwneud penderfyniad cyflym. Mae hi’n cydio yn ei bag llaw ac yn rhedeg at ddrws y cerbyd. Cyn gynted ag y bydd yn agor, mae hi’n neidio i’r platfform, ond mae’r dyn yn agos tu ôl iddi hi.
“Am eich trosedd o gynllwynio i ladd eich gŵr,” meddai, “mae’n rhaid i chi fyw am byth fel tylluan, yn cael eich casáu gan yr holl adar eraill, byth i weld yr haul eto.”
Mae o’n mwmian geiriau annealladwy ac mae Rhiannon yn teimlo ei hun yn trawsnewid.
“Ond, does gen i ddim gŵr hyd yn oed!” meddai, ei geiriau olaf cyn iddi hedfan i ffwrdd i’r goedwig.
Ni fydd hufen iâ i Rhiannon heddiw. Ba.
* [[Trïwch eto|Mae Rhiannon yn mynd i Ynys y Barri]]Mae Rhiannon yn sefyll ar y platfform, yn aros am drên arall.
Mae hi’n aros ac aros ac aros.
Yn y diwedd, mae ‘na gyhoeddiad.
“Mae’r gwasanaethau brys yn mynychu digwyddiad ar hyn o bryd. Fydd ‘na ddim mwy o drenau neu fysiau i Ynys y Barri heddiw. Dan ni’n cynghori teithwyr i ddychwelyd i Gaerdydd.
Mae Rhiannon yn ochneidio, yn croesi i’r platfform arall, ac yn mynd ar y trên sy’n aros yna i ddychwelyd i Gaerdydd.
Ni fydd hufen iâ i Rhiannon heddiw. Ba.
* [[Trïwch eto|Mae Rhiannon yn mynd i Ynys y Barri]]Mae Rhiannon yn gadael yr orsaf, yn edrych o gwmpas yn nerfus, rhag ofn bod y dyn rhyfedd yn aros amdani hi.
Dydy hi ddim yn ei weld, ond dydy’r ddynes o’r trên ddim yn rhy bell tu ôl iddi hi. Am rhyw reswm, mae hynny’n gwneud iddi deimlo’n fwy diogel.
Ydy hi’n edrych am dacsi neu’n cerdded?
* [[Mae hi’n ffeindio tacsi|O, y Cŵn Annwn ydy o eto]]
* [[Mae hi’n dechrau cerdded|Mae’n dal ffordd hir i’r Barri pan ddach chi’n cerdded]]Mae Rhiannon yn cerdded i fyny at y tacsi ac yn ceisio dal llygaid y gyrrwr
Mae drws y tacsi’n agor ac mae ci yn neidio allan. Ci mawr, llwyd. Ac wedyn un arall. Ac un arall. Ac un arall. Maen nhw’n cyfarth ati hi, eu cegau’n agored, llygaid yn llygadu yn wyllt. Mae mwy o gŵn yn llifo o’r car, mwy o gŵn na all un car eu dal. Y Cŵn Annwn ydyn nhw.
Mae hi’n gweld Arawn yn eistedd tu ôl i’r olwyn, yn annog y cŵn ymlaen.
Mae hi’n rhedeg.
Ni fydd hufen iâ i Rhiannon heddiw. Ba.
* [[Trïwch eto|Mae Rhiannon yn mynd i Ynys y Barri]]Does ‘na ddim tacsis ar y safle tacsi, felly mae Rhiannon yn dechrau cerdded tuag at yr arhosfa fysiau. Mae map ei ffôn yn dweud y dylai fod yn daith gerdded deg munud.
Mae hi’n teimlo presenoldeb tu ôl iddi hi ac yn troi i weld y dyn rhyfedd yn ei dilyn.
Mae hi’n cerdded yn gyflymach.
Mae o’n cyflymu.
Yn sydyn mae hi yng nghanol niwl. Mae hi’n clywed llais benywaidd yn galw ati ar ei chwith — y ddynes o’r trên ydy hi.
Ddylai Rhiannon redeg tuag at y llais, neu redeg tuag at yr arhosfa fysiau?
* [[Mae hi’n glynu wrth y cynllun ac yn rhedeg tuag at yr arhosfa fysiau|Cantre’r Gwaelod]]
* [[Mae hi’n newid cyfeiriad ac yn rhedeg tuag at y llais|Diogelwch mewn niferoedd]]Cyn bo hir, ni all Rhiannon weld llawer mwy na metr neu ddau o’i blaen. O dan ei thraed, mae’r palmant yn newid i ro ac wedyn i lwybr mwd caled.
Mae llais yn dod o’r niwl.
“Pwy sy’n dod?” meddai dyn.
“Beth?”
Yn sydyn, mae’r niwl yn clirio ac mae Rhiannon yn gweld dyn ifanc a golygus iawn yn sefyll o’i blaen.
“O, helo,” meddai. “Hoffech chi ddiod?”
Mae hi’n gweld gobled o win yn ei law.
“Yym, efallai?” meddai Rhiannon, yn edrych o gwmpas. Mae hi’n sefyll wrth giât mewn wal dref dal, un sydd ddim yn bodoli yng Nghaerdydd yn sicr.
“Seithennyn ydy fy enw fi,” meddai. “Os dach chi eisiau dod i’r wledd, well i chi wneud penderfyniad. Mae popeth yn dechrau cychwyn yno.”
“Beth?”
Mae o’n bowio’n grand.
“Croeso i Gantre’r Gwaelod.”
Ni fydd hufen iâ i Rhiannon heddiw. Ba.
* [[Trïwch eto|Mae Rhiannon yn mynd i Ynys y Barri]]Mae’r niwl yn clirio mor sydyn ag y cyrhaeddodd, ond dydy’r ddynes i’w gweld yn unman.
Dydy Rhiannon ddim yn siŵr lle mae hi, ond mae hi’n dal i fynd.
Mae ci mawr yn ymddangos o unman ac yn trotio wrth ei hymyl.
Mae hi’n gweld tacsi efo’i olau ymlaen, ac yn meddwl tybed a ddylai hi ei fflagio.
* [[Dylai hi fflagio|Dyma ni’n mynd efo Cŵn Annwn eto]]
* [[Ddylai hi ddim fflagio|Dysgwch y wers yn barod]]Mae’r tacsi yn stopio ac mae’r gyrrwr yn agor y drws. Mae sawl ci mawr yn heidio allan o’r car, ond mae’r ci mawr wrth ei hymyl yn ei hamddiffyn.
Mae o’n cyfarth at y Cŵn Annwn, yn dangos ei ddannedd. Rhywsut mae o’n ymddangos yn fwy nac oedd o.
Mae’r Cŵn Annwn yn ielpan ac yn rhedeg yn ôl i’r tacsi.
Mae Rhiannon yn ffeindio ei hun yn anwesu’r ci mawr wrth ei hymyl, ac mae’n gwthio’i drwyn yn erbyn ei llaw.
Mae hi’n parhau i gerdded.
* [[Mae Rhiannon yn parhau i gerdded|Cerdded]]Mae Rhiannon yn gadael i’r tacsi fynd heibio ac yn parhau i gerdded. Mae’r ci yn trotio wrth ei hymyl. Mae hi’n caniatáu hynny.
* [[Mae Rhiannon yn parhau i gerdded|Cerdded]]Mae’r ci yn arwain Rhiannon heibio parc. Mae hi’n edrych ar y map ar ei ffôn ac yn penderfynu ei fod yn lwybr byr da. Mae hi’n troi i gerdded i mewn i’r parc, ond dydy’r ci ddim yn hapus iawn am ei phenderfyniad ac mae o’n trio ei harwain i ffwrdd.
Mae o’n rhyw fath o helgi mawr, efo blew llwyd gwrychog a chlustiau craff sy’n ymddangos i fod yn sganio’r perimedr yn gyson. Mae’’n edrych i fyny at Rhiannon ac mae hi’n gallu gweld ei fod yn anhapus. Mae o’n nadu .
Ddylai Rhiannon fynd i mewn i’r parc?
* [[Dylai, dylai Rhiannon yn fynd i mewn i’r parc|Mynd i mewn i’r parc]]
* [[Na ddylai, dylai Rhiannon barhau ar hyd y ffordd|Ar hyd y ffordd]]Mae’r ci yn ffwdanus. Mae Rhiannon yn anwesu ei ben i’w dawelu, ond mae’n trotio o’i blaen. Mae’n amlwg yn flin.
Mae ‘na goedwig o fewn y parc ac mae’r llwybr yn arwain i mewn iddi .
Mae’r awyr yn teimlo’n rhyfedd tu mewn i’r goedwig. Cliriach. Oerach. Mwy ffres. Ac mae’r daith gerdded yn teimlo fel ei bod yn cymryd amser hir, er mai dim ond munudau allai fod wedi mynd heibio.
Mae hi’n cyrraedd ymyl y goedwig ac yn edrych allan at yr olygfa o’i blaen.
Mae rhywbeth yn anghywir iawn, iawn. Mae hi’n ei deimlo fo.
Mae hi’n cael cip ar ei ffôn, at y dyddiad ar y sgrîn clo. Mae’n dweud “2126”. Mae can mlynedd wedi mynd heibio. Dydy hi ddim yn siŵr os ydy’r Barri yn bodoli rŵan. Yn bendant, dydy Fflur ddim. Mae hi’n troi yn ôl i’r coed.
Ni fydd hufen iâ i Rhiannon heddiw. Ba.
* [[Trïwch eto|Mae Rhiannon yn mynd i Ynys y Barri]]Mae’n daith gerdded hir i’r Barri o Cadoxtan, ond mae Rhiannon yn parhau. Mae’r ci yn trotio ymlaen wrth ei hymyl.
Mae hi’n cyrraedd at Lannau'r Barri ac yn edrych ar ei map. Hanner awr arall i fynd. Mae hi’n mynd i fod mor, mor hwyr.
Mae hi’n ysgrifennu neges destun i fodryb Fflur, ond nid yw’n anfon.
Mae’r ci yn gwthio’i drwyn yn erbyn ei llaw, ac wrth i Rhiannon gwrcwd i lawr i’w anwesu, mae’n llyfu ei hwyneb. Mae hi’n crychu ei llygaid am eiliad a pan mae hi’n eu hagor nhw eto, dyma hi, ar y promenâd.
Mae’r ci yn cyfarth unwaith, ei llais rhywsut yn fenywaidd a chyfarwydd, ac yn rhedeg i ffwrdd i’r pellter.
“Rhiannon!” Mae hi’n clywed llais ei modryb Fflur ac yn troi i ffeindio ei hun wedi’i lapio mewn cwtch cynnes. “Dw i mor hapus i dy weld di!”
“Dw i mor falch fy mod i wedi cyrraedd yma!” meddai Rhiannon. “Mae o wedi bod yn dipyn o dreial.”
“Dw i’n gwybod,” atebodd Fflur , ac mae ‘na rywbeth yn ei llais sy’n swnio dipyn bach yn fleiddaidd. “Ddylen ni gael hufen iâ?”
//Llongyfarchiadau! Dach chi wedi arwain Rhiannon i’w hufen iâ yn llwyddiannus! Dach chi’n cael y teimlad o waith wedi’i wneud yn dda!//
Os dach chi wedi mwyhau’r gêm hon ac yr hoffech i Suw ysgrifennu un arall, <a href="https://gofund.me/1745c27e3">plîs cyfrannwch yn GoFundMe</a>.
Os dach chi eisiau ymarfer eich Cymraeg ac yn dysgu’r geiriau o’r gêm hon, tanysgrifiwch i Ymestyn.Cymru, yr unig raglen ymarfer strwythuredig ar gyfer dysgwyr canolradd.
Ac os dach chi eisiau chwarae eto, fe allwch!
* [[Chwaraewch eto|Mae Rhiannon yn mynd i Ynys y Barri]]